Mae Bwlch Cliced - hen ysgubor wedi'i adnewyddu'n chwaethus i gynnig pob cyfleuster modern (gan gynnwys twba poeth) - yn swatio yng nghefn gwlad, gyda golygfeydd eang dros yr aber a'r môr.
Hen ysgubor wedi'i adnewyddu'n llwyr i gynnig llety pedair seren yw Bwlch Clicied; mae'n rhan o fferm weithredol ar gyrion pentref Talybont, ger tref lan môr Fictoraidd Aberystwyth.
Gyda golygfeydd eang dros aber afon Dyfi a'r môr, a thros fryniau Meirionnydd, dyma'r lle delfrydol i ymlacio a mwynhau egwyl fach.
Rydym rhyw filltir o bentref Talybont, ac o fewn cyrraedd rhwydd i drefi cyfagos Aberystwyth a Machynlleth. Oddi yma, gallwch deithio i'r traethau lleol neu i lawer o fannau diddorol a deniadol.
Rydym yn awyddus i sicrhau eich bod yn mwynhau aros ym Mwlch Cliced, ac mae croeso i chi gysylltu â ni i holi unrhyw gwestiynau. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Ffoniwch ni ar 01970 832027 neu anfonwch ebost gydag unrhyw ymholiad.
Mair a David
"Bwthyn hyfryd. Roedd popeth ynddo’n lân ac o safon uchel. Roedd y perchnogion yn hynod gyfeillgar, a chawsom groeso cynnes ganddynt. Golygfeydd gwych dros yr aber. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un."
Cafodd bwthyn Bwlch Cliced ei enwi ar ôl nod clust arbennig sydd, ar ddefaid ac anifeiliaid eraill, yn arwydd o berchnogaeth. Roedd y nodau hyn - ac mae yna ryw 30 ohonynt ar gyfer gwahanol ffermydd - yn bwysig iawn erstalwm yn y tirwedd mynyddig o'n cwmpas lle roedd anifeiliaid unwaith yn cael pori a chrwydro'n rhydd.
Cwblhawyd y gwaith adnewyddu ar ddiwedd 2014. Mae ein celfi, a'r gwaith celf a gomisiynwyd gan artist lleol, Ruth Jên, wedi'u seilio ar thema gwlân gan adlewyrchu hanes ein pentref lleol, Talybont, a oedd unwaith yn enwog am gynhyrchu defnydd tapestri gwlân Cymreig.
Mae'r lleoliad, yng nghanol cefn gwlad, yn gyfleus iawn ar gyfer pentref Borth a thraethau cyfagos eraill.
Cafodd Talybont, ein pentref lleol, ei godi ar lannau afon Leri ac afon Ceulan. Yn y pentref ei hun, a'r ardal o amgylch, mae olion hen fwyngloddiau arian a phlwm, a hen felinau gwlân.
Er bod arian a phlwm wedi'i fwyngloddio yn yr ardal ers cyfnod y Rhufeiniaid, yn y G19 y gwelwyd y datblygiadau mwyaf dramatig; dyna pryd yr adeiladwyd nifer o'r rhesi tai a welir yn y pentref, i gartrefu'r cannoedd a symudodd i'r ardal i weithio yn y ffatrïoedd gwlân a'r mwynfeydd.
Mae yna siop Spar yn y pentref lle gallwch brynu bwyd a nwyddau angenrheidiol; yn ogystal mae yna fferyllfa a gorsaf betrol.
Menter gymunedol yw Siop Cynfelyn, rhyw ddwy filltir i'r gogledd o Dalybont; mae'n hyrwyddo diwylliant Cymreig yr ardal ac yn gwerthu nwyddau sylfaenol megis bara, llaeth a phapurau newydd. Mae eu caffi'n gwerthu cacennau cartref a choffi blasus ac, wrth gwrs, yn cynnig croeso cynnes, Cymreig.
Mae Talybont tua hanner ffordd rhwng trefi Aberystwyth a Machynlleth, ac mewn safle delfrydol i gyrraedd pentref glan môr y Borth a thraethau eraill cyfagos. Ym mhentref Bow Street mae siop Spar ychydig mwy o faint, a cheir dewis eang o siopau yn Aberystwyth.
"Arhosais yn Bwlch Cliced am benwythnos hir yn ddiweddar. Roedd y lleoliad a’r golygfeydd yn wych. Cawsom groeso cynnes wrth gyrraedd, gyda phaned o de a chacennau cartref, a bwyd ar gyfer brecwast y bore wedyn. Roedd y bwthyn yn ardderchog – wedi’i ddodrefnu i safon uchel, yn lân a chynnes, ac yn cynnig golygfeydd diguro."
Mae Bwlch Cliced wedi'i ddodrefnu'n fodern ar gyfer 4 person, gydag ystafell wely ddwbl ac ystafell ac iddi ddau wely sengl, a llawr gwaelod ar gynllun agored. Byddwch yn derbyn croeso cynnes gyda phaned o de a chacennau cartref.
Rydym wedi ceisio meddwl am bopeth y bydd arnoch ei angen! Os oes unrhyw beth arall yr hoffech i ni ei ddarparu, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae yna dafarndai a bwytai da o fewn milltir i'r bwthyn.
Mae Blwch Cliced yn swatio ar ochr bryn yng nghanol tirwedd hyfryd cefn gwlad. O'r bwthyn ceir golygfeydd ysblennydd am filltiroedd o'ch cwmpas.
Mae golygfeydd hyfryd o'r arfordir, y mynyddoedd a chefn gwlad i'w gweld o'r bwthyn. Ar ddiwrnod clir gallwch weld Ynys Enlli a Phenrhyn Llŷn, ac wrth ymlacio ar y patio gallwch weld am dros 30 milltir, o draeth a phentref Aberdyfi ar hyd yr aber at gopa Cadair Idris, llethrau bryniau Meirionnydd a thu hwnt.
Golygfeydd hyfryd o'r môr, mynyddoedd a chefn gwlad.
The property is in a great location - beautiful views and peaceful yet close to facilities such as shops. The cottage has everything you need and is decorated and furnished to a great standard. The owners are very welcoming. Recommends: Walk on Borth beach at low tide to see the ancient submerged forest - it is quite a sight.
Couple from Weston-super-mare
2nd time we have been to this property and it's still brilliant. Forest near by and sand dunes are worth a visit.
Noel from Crewe, Cheshire
The cottage was outstanding, spotlessly clean, with all mod cons! The owners gave us a lovely welcome. The hot tub was an added bonus and fab. The cottage was beautifully decorated and it was lovely and warm. Also it is easy to find, and was in a good location to visit Aberystwyth and other neighbouring towns. I will definitely go back. Outstanding. Aberystwyth is a favourite of mine with plenty of coffee shops! There is a beautiful promenade to walk along and plenty of benches along the way to sit and watch the sea.
Louise from Swansea
Very relaxing. Beautiful cottage, excellent facilities, home from home. Recommendations: Black Lion pub for food, steam train ride to Devils Bridge. King Arthur's Labyrinth.
Michelle from Bristol
It was excellent and the owners have obviously thought carefully about decor, furnishing and facilities provided. Lovely beach at Ynyslas especially if you have a dog.
Family from Caerffili
We have just spent a relaxing three days at Bwlch Cliced cottage, located on a hill-side and with views to both sea and hills. The owners have done a fantastic job of converting their stone barn into light and spacious semi-detached cottages, where guests are welcomed by fresh flowers, home-made cake and ample provisions for next morning’s breakfast. A lot of thought has gone into creating a stylish and comfortable interior which makes the cottage both elegant and cosy. We appreciated the comfortable beds and lounge-room sofas, plus the equally wonderful shower. We did a couple of smallish walks around Talybont and Aberystwyth, plus managed to fit in two excellent meals at the Black Lion Hotel in Talybont. All in all a very satisfying week-end. We would warmly recommend a stay at Bwlch Cliced.
Kirsten & Mike, Canberra, Australia
Mair and David, we have felt so at home in this awesome cottage! Stunning views and setting packed tastefully with everything you need. We have all had a great time and don’t want to leave. We have every intention to return for another great holiday.
The Williams, Swansea
A fantastic week and lovely cottage. Thank you for going out of your way and providing games for the girls - will definitely recommend to family.
The Rudkin Family, Derby
I recently stayed at Bwlch Cliced for a long weekend, the location and views were fabulous. On arrival we had a friendly welcome with complimentary cakes and drinks, also breakfast for the next morning. The cottage was awesome, it was furnished to a high standard, and was so lovely, warm, clean and fantastic views.
Sharon Tinsley, Barnsley
We were the first guests to stay at the beautiful “Bwlch Cliced”. We had a warm welcome from Mair and David and we have recommended their hospitality to our friends who have also stayed in the idyllic accommodation. Just a perfect place to relax and unwind.
Lyn and Keith, Worcester
Ym mhentref Talybont mae Tafarn a Bwyty sy'n cynnig bwydlen amrywiol, a lle i eistedd yn edrych dros y Patshyn Glas. Ewch i'w gwefan i weld y fwydlen ac oriau agor.
Ble: Talybont GreenMae Tafarn hefyd ym mhentref Talybont, yn darparu bwyd a lle i eistedd yn yr awyr agored.
Ble: Talybont GreenYn Aberystwyth mae bwyty sy'n cynnig bwydlen amrywiol, a phob math o pizzas. Ewch i'w gwefan i weld y fwydlen ac oriau agor.
Ble: 1 Llys y Brenin (Aberystwyth Sea Front), Aberystwyth, SY23 2APBwyty yn Aberystwyth sy'n cynnig bwydlen amrywiol. Ewch i'w gwefan i weld y fwydlen ac oriau agor.
Ble: 19 Marine Terrace (Aberystwyth Sea Front), Aberystwyth, SY23 2AZO fewn ychydig filltiroedd i Tyhen Henllys mae gwarchodfa natur a chanolfan wylio adar Ynys-hir. Yno ceir coetiroedd a gwlyptiroedd, cyfoeth o fywyd gwyllt, ac amryw o lwybrau i'w dilyn i archwilio'r warchodfa. Trefnir nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau - am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan.
Ble: Towards Machynlleth, SY20 8TAGallwch hwylio mewn cwch danddaearol drwy raeadr hudol a gwrando ar hen chwedlau am hud a lledrith, dreigiau a chewri. Mae Labrinth y Brenin Arthur yn cychwyn o Ganolfan Grefftau Corris, sy'n atyniad gwych.
Ble: Corris Craft Centre, Corris, Machynlleth, Powys, SY20 9RFTrên stêm o Aberystwyth i Bontarfynach. Dyma ffordd wych o deithio drwy Ddyffryn Rheidol gyda'i olygfeydd rhyfeddol. Agorwyd y rheilffordd yn 1902, ac mae'n dringo 700 troedfedd yn ystod y daith 12 milltir o Aberystwyth i Bontarfynach. Yng ngorsaf Pontarfynach mae yna gaffi a siop anrhegion, ac mae Rhaeadrau enwog Pontarfynach o fewn taith gerdded rwydd.
Ble: Aberystwyth Train StationMae'r rhaeadrau a'r llwybrau cerdded yn atyniad poblogaidd i ymwelwyr ers y G18. Maent o fewn taith gerdded rwydd i orsaf drên Pontarfynach.
Ble: Devils Bridge, Ceredigion, SY23 3JWMerlota yn nhirwedd hyfryd Dyffryn Rheidol. Gellir trefnu teithiau hamddenol i unrhyw un dros 4 oed, gyda theithiau tywys ar ferlod bach ar gyfer plant ifanc a theithiau mwy cyffrous ar gyfer rhai mwy profiadol.
Ble: Capel Bangor, Aberystwyth, SY23 4ELLlwybrau cerdded ynghanol coedwigoedd, rhaeadrau a golygfeydd ysblennydd yn Ystâd yr Hafod, a gynlluniwyd yn y G18 yn y dull pictiwrésg gan Thomas Johnes.
Ble: Pontrhydygroes, Ystrad-Meurig, Ceredigion, SY25 6DXMae Clwb Golff Borth ac Ynyslas o fewn taith 10 munud mewn car o Bwlch Cliced. Sefydlwyd y clwb yn 1885, ac mae'n cynnig golygfeydd gwych dros Fae Ceredigion. Mae croeso cynnes i ymwelwyr nad ydynt yn aelodau.
Ble: Borth & Ynyslas Golf Club, Aer-Y-Mor, Borth, SY24 5JSMae'r llyfrgell yn un o ddim ond chwech o lyfrgelloedd adnau cyfreithiol yn y Deyrnas Gyfunol, ac ynddi mae rhyw 4 miliwn o gyfrolau printiedig. Llyfrgell gyfeirio yn unig yw hi, a gellir cael tocyn darllenydd yn rhad ac am ddim trwy ddangos dwy ddogfen adnabod wahanol. Mae'r llyfrgell hefyd yn boblogaidd gyda rhai sy'n hel achau ac mae yno fwyty, caffi bychan a siop.
Ble: Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BUAr ôl cyrraedd gwaelod Craig Lais, gallwch ddewis teithio i'r copa naill ai ar y rheilffordd drydan a agorwyd yn 1896, neu ddilyn y llwybr troed. O ben y bryn mae'r golygfeydd yn gwbl ryfeddol - ar ddiwrnod clir gellir gweld copaon 26 o fynyddoedd dros ardal eang o Gymru. Mae'r Camera Obscura, sy'n un o'r mwyaf yn y byd, yn cynnig golygfa ysblennydd o'r awyr dros ardal o 1,000 milltir sgwâr o dir a môr.
Ble: Cliff Terrace, Aberystwyth, SY23 2DNSw bychan sy'n cynnig cartref newydd i anifeiliaid sw ac anifeiliaid anwes ecsotig nad oes ar neb eu heisiau. Mae'r sw yn datblygu'n gyflym, a disgwylir y bydd dau Lew Affricanaidd yn cyrraedd yno yn 2015. Cynigir gwahanol weithgareddau, a gellir gwylio'r anifeiliaid yn cael eu bwydo. Ewch i'w gwefan am ragor o wybodaeth.
Ble: Ynisfergi, Borth SY24 5NAFel llecyn i fwydo Barcutiaid, ac am ei lwybrau cerdded a beicio, y mae Nant yr Arian yn fwyaf adnabyddus, ond ceir yno hefyd ganolfan ymwelwyr a chaffi. Trefnir gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan neu eu tudalen Facebook.
Ble: Bwlch Nant yr Arian, Ponterwyd, Aberystwyth, SY23 3ADMae Cors Fochno - cors fawn, wastad, sy'n 4 milltir o hyd - yn nefoedd ar y ddaear i unrhyw un sy'n gwerthfawrogi natur a bywyd gwyllt. Y rhan fwyaf o'r amser mae gweddillion coedwig hynafol y Borth o'r golwg dan y môr a'r tywod, ond os bydd y llanw'n ddigon isel caiff y tywod ei olchi i ffwrdd i ddatgelu olion boncyffion coed derw, pinwydd, bedw, helyg a chyll (a ddiogelwyd gan y mawn asidig, anaerobig).
Ble: Visitor Centre, Ynyslas, Borth, Ceredigion, SY24 5JZTeithiau i wylio'r dolffiniaid yn cychwyn o bentref pysgota deniadol Ceinewydd. Mae'r daith yn cymryd rhyw awr a hanner yng nghwmni arbenigwr ar fywyd gwyllt y môr a chapten a chriw brwdfrydig.
Ble: Quayside Gift Shop, underneath the Old Watch House Restaurant, New Quay, SA45 9NPWedi ei leoli yng Nghors Dyfi, gwarchodfa natur hyfryd sy’n gyforiog o fywyd gwyllt am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, mae Prosiect Gweilch y Ddyfi yn gartref i deulu o Weilch o fis Ebrill hyd fis Medi. Mae’r warchodfa ar agor rhwng Mawrth a Medi, ac yn rhad ac am ddim i ymweld â hi, ond croesewir cyfraniadau i helpu gyda chostau rhedeg y prosiect. Yno hefyd mae cuddfan gwylio adar, arsyllfa 360, siop fechan, canolfan ymwelwyr, caffi a thoiledau. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth, a gwe-gamera sy’n dangos lluniau byw.
Ble: Tuag at Machynlleth SY20 8SRYn swatio yng nghesail Mynyddoedd y Cambrian, mae cronfa ddŵr Nant-y-Moch dair milltir o bentref Ponterwyd. Dilynwch y ffordd fynydd o’r Patshyn Glas yng nghanol Talybont tuag at y gronfa a’r argae, gan fwynhau’r golygfeydd godidog o’ch cwmpas ac aros mewn ambell gilfan i’w gwerthfawrogi’n llawn. Mae taith gerdded Pumlumon a Nant-y-Moch, a ddisgrifir yn Walking Britain, yn dilyn esgynfa galed 11 milltir o hyd i gopa Pumlumon, y pwynt uchaf yng nghanolbarth Cymru. Mae’r tir yn wyllt a llwm, a’r golygfeydd yn ysblennydd.
Ble: Dilynwch y ffordd o’r Patshyn Glas yng nghanol Talybont, neu ewch i’r wefan am ragor o fanylion.Mae Canolfan Groeso Aberystwyth yn lle da i ddod i wybod am ddigwyddiadau ac atyniadau lleol. Y drws nesaf iddi mae Amgueddfa Ceredigion, lle ceir mynediad am ddim. Os hoffech fanylion am unrhyw weithgareddau arbennig, mae croeso i chi holi Mair neu David.
Ble: Ceredigion Tourism Service, Lisburne House, Terrace Road, Aberystwyth, SY23 2AGCynhelir Marchnad Ffermwyr Aberystwyth - enillydd y wobr am y Farchnad Fwyd Orau yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio BBC Radio 4 2014 - ar y dydd Sadwrn cyntaf a'r trydydd dydd Sadwrn o bob mis.
Ble: AberystwythYn nhref Machynlleth - lle sefydlodd Owain Glyndŵr ei Senedd i Gymru yn 1404 - cynhelir marchnad stryd fywiog bob dydd Mercher. Mae yno hefyd amrywiaeth dda o gaffis a siopau, llawer ohonynt yn annibynnol ac unigryw.
Ble: MachynllethYn nhref glan môr Aberystwyth, taith ryw wyth milltir o Fwlch Cliced, ceir amrywiaeth eang o siopau, caffis a bwytai. Mae'r brif stryd siopa'n agos at lan y môr a'r promenâd hir, troellog, gan roi mynediad rhwydd at bopeth sydd gan y dref i'w gynnig. Mae sinema yng nghanol y dref, ac yng Nghanolfan y Celfyddydau ar dir y Brifysgol trefnir pob math o ddigwyddiadau amrywiol trwy gydol y flwyddyn.
Ble: AberystwythBob dydd Mercher cynhelir marchnad ar brif stryd Machynlleth, ac mae'r dref yn cynnig amrywiaeth eang o siopau a caffis gyda nifer o'r siopau'n rhai annibynnol ac unigryw. Ychydig filltiroedd i'r gogledd o Fachynlleth mae Canolfan y Dechnoleg Amgen, canolfan ecolegol a agorwyd yn 1973, sy'n rhoi pwyslais ar gynaliadwyedd.
Ble: AberystwythTref lan môr ddeniadol yw Aberaeron, i'r de o Aberystwyth ar hyd ffordd yr arfordir i gyfeiriad Aberteifi. Er mai tref fechan yw hi, mae yno amrywiaeth dda o siopau, caffis, tafarnau a thai bwyta. Cynhelir carnifal blynyddol ar ddydd Llun Gŵyl y Banc ar ddiwedd mis Awst. Mae Aberaeron yn enwog am ei thai lliwgar a'i phensaernïaeth unigryw, ac mae'r harbwr bach prysur a'r traeth caregog yn atyniadau poblogaidd i ymwelwyr.
Ble: AberaeronMae tref glan môr Ceinewydd, sy'n daith ryw 45 munud o Aberystwyth, yn gyrchfan boblogaidd gan ymwelwyr, gyda'i thraethau tywodlyd a'i harbwr diddorol. Flynyddoedd lawer yn ôl roedd yn ganolfan bwysig ar gyfer adeiladu llongau oedd yn hwylio i America ac Awstralia. Cynhelir Regatta Bae Ceredigion, a sefydlwyd yn yr 1870au, ym mis Awst bob blwyddyn.
Ble: New QuayTraeth caregog gyda phromenâd llydan, eang sy'n ymestyn o'r pen gogleddol a Chraig Lais - lle gallwch deithio ar Reilffordd y Graig - i'r Harbwr a'r Goleudy yn y pen deheuol. Mae'r syrffwyr yn aml yn tyrru i Draeth y De, ger yr Harbwr, i ddangos eu campau ac mae sawl pysgotwr a'i wialen i'w gweld ar y pier ger y Goleudy. Rhan brysuraf y traeth yw'r ardal sydd agosaf at ganol y dref a'r siopau, gyda'r traeth ger y Goleudy'n tueddu i fod yn llawer tawelach.
Ble: AberystwythMae traeth y Borth yn cynnwys ardaloedd caregog a lleiniau eang o dywod hyfryd. Gan fod y pentref yn agos iawn at y traeth, mae'r cyfleusterau megis toiledau, caffis, tafarndai a siopau o fewn cyrraedd rhwydd. Gellir cerdded ar hyd y traeth o'r Borth i Ynyslas, pellter o ryw 3 milltir.
Ble: AberystwythMae'r traeth hwn yn hyfryd o dywodlyd, ac yn fan poblogaidd i rai sydd am fwynhau syrffio gwynt a hedfan barcud. Clwb Golff y Borth yw perchnogion y maes parcio, ac ar adeg gwyliau codir tâl am barcio. Mae'r traeth eang hwn yn yr ardal rhwng y Borth a Thwyni Tywod Ynyslas, ond mae'r cyfleusterau'n gyfyng ac nid oes toiledau yma.
Ble: Ynyslas, BorthWedi'i leoli ar ochr ddeheuol aber afon Dyfi, mae Ynyslas yn cynnig traeth mawr, eang gyda thwyni tywod, digonedd o gregyn amrywiol, pyllau bach creigiog, llwybr cerdded pwrpasol, toiledau a chanolfan ymwelwyr (ar agor o'r Pasg hyd ddechrau Medi). Mae'r traeth yn hyfryd bob adeg o'r flwyddyn, a hyd yn oed ar ddiwrnod heulog pan fo'r maes parcio'n brysur gellir dod o hyd i lecyn tawel. Mae'r fan hufen iâ bob amser yn boblogaidd gan bawb! Er bod llawer o bobl yn hoffi aros yn agos at eu ceir, wrth ddewis cerdded dros neu o amgylch y twyni tywod fe welwch draeth enfawr, braf, yn ymestyn o'ch blaen lle gellir mwynhau oriau lawer o bleser.
Ble: AberystwythWedi'i leoli yn y bryniau, yn agos at lan y môr, ac yn cynnig llety pedair seren.
Mae Bwlch Cliced ychydig dan filltir o bentref Talybont.
Ein cyfeiriad yw:
Tyhen Henllys, Talybont, Ceredigion, SY24 5EQ
Ffôn: 01970 832027
Cymerwch yr A487 o Aberystwyth i Dalybont (7 milltir). Gan fynd heibio i ddwy dafarn ar y Patshyn Glas yng ngwaelod y pentref, cariwch ymlaen heibio'r orsaf betrol a chymryd y tro 1af i'r chwith ar hyd lôn gul (gyferbyn â'r ciosg ffôn). Ewch yn eich blaen ac allan o'r pentref gan fynd heibio i fynedfa'r goedwig ar y chwith, ac yna'r tŷ ar y chwith. Yn syth ar ôl y tŷ fe welwch yr arwydd i 'Tyhen Henllys' ar waelod y lôn sy'n arwain at 'Bwlch Cliced'.
Cymerwch yr A487 o Fachynlleth i Dalybont (11 milltir). Wrth ddod i mewn i bentref Talybont, ewch heibio i stad o dai ar y dde - yna cymerwch y tro cyntaf i'r dde. Ewch ymlaen ar hyd y lôn hon, gan fynd heibio'r cae chwarae i blant ar y chwith, a theithio - gan gadw i'r dde - allan o'r pentref am ryw hanner milltir. Byddwch yn mynd heibio i fynedfa'r goedwig ar y chwith, ac yna heibio'r tŷ ar y chwith. Yn syth ar ôl pasio'r tŷ fe welwch yr arwydd i 'Tyhen Henllys' ar waelod y lôn sy'n arwain at 'Bwlch Cliced'.
Peidiwch â rhoi'r cod post yn eich teclyn satnav - bydd yn mynd â chi i'r Borth, nid i Dalybont!